Hedd Wyn

gan R. Williams Parry, 1924

Y bardd trwm dan bridd tramor, — y dwylo
Na ddidolir rhagor:
Y llygaid dwys dan ddwys ddôr,
Y llygaid na all agor.

Wedi ei fyw y mae dy fywyd, — dy rawd
Wedi ei rhedeg hefyd:
Daeth awr i fynd i'th weryd,
A daeth i ben deithio byd.

Tyner yw'r lleuad heno — tros fawnog
Trawsfynydd yn dringo:
Tithau'n drist a than dy ro
Ger y ffos ddu'n gorffwyso.

Trawsfynydd tros ei feini — trafaeliaist
Ar foelydd Eryri:
Troedio wnest ei rhedyn hi,
Hunaist ymhell ohoni.

2

Ha frodyr! Dan hyfrydwch llawer lloer
Y llanc nac anghofiwch;
Canys mwy trist na thristwch
Fu rhoddi llesg fardd i'r llwch.

Garw a gwael fu gyrru o'i gell un addfwyn
Ac o noddfa'i lyfrgell:
Garw fu rhoi'i bridd i'r briddell
Mwyaf garw oedd marw ymhell.

Gadael gwaith a gadael gwŷdd, gadael ffridd
Gadael ffrwd a mynydd;
Gadael dôl a gadael dydd,
A gadael gwyrddion goedydd.

Gadair unig ei drig draw! Ei dwyfraich
Fel pe'n difrif wrandaw,
Heddiw estyn yn ddistaw
Mewn hedd hir am un ni ddaw.

R. Williams Parry