J.C.Wells

- - - -

Prifathro Seineg yng Ngholeg y Brifysgol Llundain (University College London -- UCL) yr ydwyf, ac mae fy niddordebau ymchwil wedi eu canolbwyntio ar faes Seineg Cyffredinol -- h. y. y disgrifiad phonetig a phonoleg o ieithoedd, ac yn arbennig seineg yr iaith Saesneg fel mamiaith yn ei holl amrywiadau. Y fi ydi awdur Accents of English, sef disgrifiad seinegol o amrywiadau'r Saesneg fel mamiaith o gwmpas y byd, ac awdur hefyd o Longman Pronunciation Dictionary, sef geiriadur ynganiad sy'n trafod yr ynganiad safonol nid yn unig yn Lloegr ond yn yr Unol Daleithiau hefyd.

Yn ogystal â bod yn Bennaeth (Cadeirydd) Adran Seineg a Ieithyddiaeth yn UCL 'r wyf yn Gyfarwyddwr Ysgol Haf y Coleg mewn Seineg Seisnig lle y croeshawir dros gant o fyfyrwyr tramor bob blwyddyn.

Yr wyf yn gyfrifol am y cyrsiau PLINP201 Phonology of English a PLINX202 English Accents, ac yn diwtor o'r MA Phonetics.

Am lawer blwyddyn bum yn Ysgrifennydd yr IPA (Cymdeithas Ryngwladol Phonetig) ac yn olygydd ei chylchgrawn, sef Journal of the IPA; 'r wyf yn para i wasanaethu ar Gyngor y Gymdeithas. Yn ddiweddar fe helpiais baratoi cased tâp awdio, The Sounds of the IPA. Cymerais ran gweithredol yn natblygiad SAMPA, sef gwyddor phonetig safonedig, parod i'r gyfrifiadur a ddarparwyd yn benodol ar gyfer ieithoedd yr Undeb Iwropeaidd, ond sydd yn awr yn cael ei ehangu er mwyn rhoi darpariaeth i holl ieithoedd y byd trwy ymestyn popeth o'r siart IPA.

'R wyf wedi dyfeisio grwp o setiau arwyddion seinegol (fonts TrueType) ar gyfer Ffenestri (Windows). Maent yn cynnwys yr arwyddion oddiar y Siart IPA cyfredol i gyd, hyd yn oed nodau diacritig a marciau oslef. Fe ellir eu prynu o'r Adran Seineg ac Ieithyddiaeth yn UCL. Yn wahanol i setiau'r cystadleuwyr, maent yn gynhwysfawr, maent wedi eu penodi i'r bysedd yn synhwyrol ac nid ydynt yn ddrud i'w prynu.

Cefais fy addysgu yn wreiddiol yn y Clasuron; astudiais Ladin, Roeg ac Hanes Hynafol hyd at lefel A, ac wedyn y Clasuron yng Nghaergrawnt, lle yr oeddwn yn Ysgolor Coleg y Drindod. Fe'm cyflwynwyd i Ieithyddiaeth gan Sidney Allen ac fe'm cyfareddwyd gan Seineg o'r cychwyn cyntaf trwy arweiniad John Trim. Deuthym i UCL fel myfyriwr graddedig a gwnes yr MA o dan Fry, Gimson ac O'Connor. Ar ôl ennill yr MA fe'm penodwyd ar y staff academic a dyma 'rydw i wedi bod ers hynny.

Saesneg yw fy mamiaith a siaradaf amryw o ieithoedd eraill gyda gwahanol safon o fedrusrwydd. Siaradaf Esperanto yn rhugl ac 'r oeddwn yn Llywydd Cymdeithas Ryngwladol Esperanto (Universala Esperanto-Asocio) rhwng 1989 a 1995. Fel glaslanc dysgais Ladin, Roeg, Ffrangeg, Esperanto ac Almaeneg. Wedyn, fel oedolyn, fe ddysgais Gymraeg. Mae gennyf wybodaeth gwanach (oddefol yn bennaf) o Eidaleg, Ysbaeneg, Is-almaeneg a Groeg Fodern.

Gallwch weld fy c. v. cryno a detholiad o fy nghyhoeddiadau.

Fy nghyfeiriad electronig yw j.wells@ucl.ac.uk.

Fy nhudalen groeso.

Tudalen flaen UCL Phonetics and Linguistics.

Tudalen flaen University College London.

Adolygiad diweddaraf: 1996 05 21